Canada

Gwlad fwyaf gogleddol Gogledd America yw Canada a hi yw'r wlad ail fwyaf yn y byd o ran arwynebedd, yn dilyn Rwsia. Mae'n ymestyn o'r Môr Iwerydd yn y dwyrain i'r Môr Tawel yn y gorllewin ac i Gefnfor yr Arctig i'r gogledd. Mae'n rhannu ffin gydag Unol Daleithiau'r America i'r de ac i'r gogledd-orllewin ac mae ei deg talaith (province) a thair tiriogaeth (territory) yn ymestyn o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel, gyda Chefnfor yr Arctig yn y gogledd. Prifddinas Canada yw Ottawa, a'i thair ardal fetropolitan fwyaf yw Toronto, Montreal, a Vancouver. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd poblogaeth y wlad yn 36,991,981 (2021). Mae pobl frodorol wedi byw'n barhaus yn yr hyn a elwir, bellach, yn "Ganada", a hynny ers miloedd o flynyddoedd. Pan gyrhaeddodd y dyn gwyn ei thraethau, roedd 500,000 ohonynt yn byw yma. Heddiw, mae'n frenhiniaeth gyfansoddiadol; gwladfa Ffrainc oedd Canada, wedyn gwladfa'r Saeson. Daeth yn fwyfwy annibynnol pan arwyddwyd 'Statud San Steffan' yn 1931 ac yna Deddf Canada 1982, pan dorrodd yn llwyr oddi wrth cyfreithiau Senedd Prydain. Bellach, mae hi'n wlad gwbwl annibynnol, sofran, gyda'r Saesneg a'r Ffrangeg yn ieithoedd swyddogol. Mae'r Ffrangeg yn cael ei siarad gan 30% o'r boblogaeth, y rhan fwyaf yn Québec, Ontario a Brunswick Newydd. Mae 32,000,000 o bobl yn byw yno, yn y de yn gyffredinol. Mae Canada yn ddemocratiaeth seneddol ac yn frenhiniaeth gyfansoddiadol yn nhraddodiad San Steffan. Pennaeth llywodraeth y wlad yw'r prif weinidog - sydd yn ei swydd yn rhinwedd ei allu i reoli'r Tŷ'r Cyffredin etholedig - ac fe'i penodir gan y llywodraethwr cyffredinol, sy'n cynrychioli brenhines Lloegr, sef pennaeth y wladwriaeth. Mae'r wlad yn parhau i fod yn un o wledydd y Gymanwlad. Mae ymhlith y gwledydd uchaf mewn tryloywder ei llywodraeth, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, rhyddid economaidd ac addysg. Mae'n un o genhedloedd mwyaf ethnig ac amlddiwylliannol y byd, sy'n ganlyniad i fewnfudo ar raddfa fawr o lawer o wledydd eraill. Mae perthynas hir Canada â'r Unol Daleithiau wedi cael effaith sylweddol ar ei heconomi a'i diwylliant. Yn wlad ddatblygedig iawn, Canada sydd â'r 15fed incwm enwol y pen uchaf, drwy'r byd, a'r 17fed safle yn y Mynegai Datblygiad Dynol. Ei heconomi ddatblygedig yw'r 10fed fwyaf yn y byd, gan ddibynnu'n bennaf ar ei hadnoddau naturiol toreithiog a'i rwydweithiau masnach ryngwladol datblygedig. Mae Canada'n rhan o sawl sefydliad neu grŵp rhyngwladol a rhynglywodraethol mawr gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, NATO, y G7, y Grŵp o Deg, y G20, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Sefydliad Masnach y Byd (WTO), Cymanwlad y Cenhedloedd, Cyngor yr Arctig, Organisation internationale de la Francophonie, fforwm Cydweithrediad Economaidd Asia-Môr Tawel, a Sefydliad Taleithiau America.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search